Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (142) |
Datganiad Personol Antoinette Sandbach
Gwnaeth Antoinette Sandbach ddatganiad personol yn ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn gyhoeddus y diwrnod blaenorol, a oedd yn cwestiynu barn ddiduedd y Llywydd.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 13 a 15. Tynnwyd cwestiwn 14 yn ôl.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 13. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Datganiad y Llywydd
Estynnodd y Llywydd ei llongyfarchiadau i staff y Cynulliad Cenedlaethol ar ennill statws Aur Buddsoddwyr mewn Pobl am yr ail dro.
4 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26.89 mewn cysylltiad â Biliau arfaethedig Aelodau
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5275 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 26.89: Balotau ar gyfer Biliau arfaethedig Aelod’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2013; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26.89, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5262
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai'r setliad datganoli fod yn seiliedig ar fodel pwerau a gedwir yn ôl.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
2 |
6 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau 03-13 i'r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol
Dechreuodd yr eitem am 15.54
NDM5274 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-13 i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol – a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 2 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 17.56;
2. Yn cymeradwyo Canllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Lobïo a Mynediad at Aelodau’r Cynulliad a nodir yn Atodiad C i’r Adroddiad; a
3. Yn cymeradwyo Rheolau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Ffordd mae Grwpiau Trawsbleidiol yn Gweithredu a nodir yn Atodiad D i’r Adroddiad ac sydd i ddod i rym ar 23 Medi 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Pwynt o Drefn
Cododd Andrew RT Davies Bwynt o Drefn fod y Prif Weinidog wedi gadael y Siambr cyn diwedd y ddadl flaenorol, pan siaradodd ar ran y llywodraeth.
Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd fod disgwyl, fel mater o gwrteisi, i Aelodau, gan gynnwys aelodau’r Llywodraeth, aros yn y Siambr hyd nes diwedd eitem y gwnaethant gyfrannu ati.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5276 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod angen cymorth brys ar fusnesau bach ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn toriad yr haf;
2. Yn gresynu mai'r gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghymru yw'r uchaf ar dir mawr Prydain;
3. Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;
4. Yn nodi'r cynigion a amlinellwyd yn nogfennau Ceidwadwyr Cymru ‘A Vision for the Welsh High Street’ ac ‘Invest Wales’ a'u cefnogaeth i fusnesau bach ledled Cymru; a
5. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn annog adleoli ac adfywio canol trefi”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
8 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y potensial i brentisiaethau gynyddu elw a chynhyrchiant busnesau bach, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau bach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod Cyllid Cymru wedi’i gyfyngu yn ei allu i gynnig cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ddulliau amgen o gyllido busnesau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn ‘Cynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig Ymlaen’ gan Blaid Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig a chanol trefi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach i gynnwys mwy o fusnesau ar y stryd fawr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5276 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod angen cymorth brys ar fusnesau bach ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn toriad yr haf;
2. Yn gresynu mai'r gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghymru yw'r uchaf ar dir mawr Prydain ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn annog adleoli ac adfywio canol trefi
3. Yn cydnabod pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau gwledig.
4. Yn nodi bod Cyllid Cymru wedi’i gyfyngu yn ei allu i gynnig cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ddulliau amgen o gyllido busnesau.
5. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn ‘Cynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig Ymlaen’ gan Blaid Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig a chanol trefi.
6. Yn cydnabod y potensial i brentisiaethau gynyddu elw a chynhyrchiant busnesau bach, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau bach.
7. Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;
8. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.26
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.30
NDM5273 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Y Fagl i Rieni: Mae gofal plant rhy ddrud yn atal teuluoedd rhag gweithio
Daeth y cyfarfod i ben am 17:50
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2013